David ScurlockEVANS04/08/1939 - 12/08/2018. Dymuna Gwyneth, Shan, Andrew a'u teuluoedd gyfleu eu diolch am pob gair a gweithred o garedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli David, gwr, tad, tadcu a tad-yng-nghyfraith annwyl iawn. Mae diolch arbennig i'r Parch Richard Lewis am gynnal gwasanaeth barchus a deimladwy yn Noddfa, Bow Street, i'r Parch T. J. Irfon Evans am ei eiriau caredig, a hefyd i'r Parch J. E. Wynne Davies a'r Parch E.Pryse am eu rhan. Diolchwn i Mr Elfyn Davies am ei deyrnged ddidwyll a theyrngar a hefyd i Mrs Eryl Evans am ei gwasanaeth wrth yr organ. Diolch i'r archgludwyr. Hoffem ddiolch i pob un a fynychodd yr angladd a phawb a gyfrannodd er cof am David tuag at Plas Cwmcynfelin a Cronfa offer Nyrsys Gymunedol Ystwyth. Derbyniwyd £1,500.00. Trefnwyd yr angladd gan Mr a Mrs Gwyn a Janet Evans o C. T. Evans, Llandre gyda urddas a trylwyrdeb. Diolch iddynt.
Keep me informed of updates